Friday, October 06, 2006

awe

iawn cont

Diwilliant y "REU"

Roedd Ianto Drugs yn cicio'i sodla efo'i fet un pnawn ym Mhenygroes disgwyl i Vic agor mashwr. Yn sydyn daeth horwth o lori fawr lawr y lon, lori "Rehau", cwmni oedd yn gneud papur yn y pentra. Pryd hynny mi oedd lot o hogia Dyffryn Nantlle yn gweithio yn y ffatri, dim lot o obaitham joban yn nunlla arall, gan gofio bod hi'n ganol y 80au. Mi drodd Ianto at ei ffêts a deud "Rehau", a dyna gychwyn y diwylliant hynod hwn.
I Ianto a'i fêts mi ddoth "Rehau" yn ffordd i gyfarch ei gilydd. "Rehau" yn dod yn helo, "Rehau" yn dod yn welai di wedyn, "Rehau" yn dod yn ateb i - tisho peint? I unrhyw un sy ddim yn nabod Dyffryn Nantlle ar nytars hollol sy'n byw yna, mae'n bwysig nodi bod "Rehau" yn cael ei ddeud efo tinc hollol unigryw a gwahanol, yn lle deud yr enw fel da chi'n weld o, mi oedd hogio'r Dyffryn yn codi octave neu ddwy gan ynganu'r gair fel hyn "Reu - Haaau".
Wedi amser, mi gollwyd y "Haaau", ac mi ddoth "Reu" i fodolaeth, mae hogia'r Dyffryn dal i ynganu’r gair fel "Reeeu".
Erbyn cychwyn y nawdegau mi odd pawb yn Dyffryn Nantlle yn deud "Reu", "Reu" am bob diawl o bob dim dan haul. "Reu" wrth gerdded i mewn i stafell, "Reu" wrth adal stafell, "Reu" ar ôl clecio peint, "Reu" wrth roi ffwc o sdid i rywun, "Reu" ar ôl tynnu fodan, "Reu" ar ôl sgorio drygs.
Drwr nawdegau mi oedd "Reu" i’w glwad bob dydd yn y Dyffryn.
Wedi deud hynny mi ddechreuodd y bastardeiddio'n fuan yn y 90au, efo lot or hogia ifanca yn dechra deud "Ruh", dyna oedd cychwyn y diwadd a deud gwir.
Wedyn mi gychwynnodd hogia dosbarth canol o Landwrog ddefnyddio "Reu", hogia oedd rioed di twllu Ysgol Dyffryn Nantlle, hogia Ysgol Syr Huw yn dre. Gan gychwyn bastardeiddio hollol faleisus ac afiach, pwy ffwc ond plant gath i magu ar Syr Wynff a Plwmsan fasa'n dod i fyny efo shit fel "Ribldi Reu" a "Reu dy Reu", os fasa nhw wedi cerdded i mewn i unrhyw pyb yn Bengroes efo ffwcin lol felna, mi fasa nhw'n byta bwyd sbyty am flwyddyn.
Mi oedd y diwylliant hyd at hynny wedi perthyn i hogia dosbarth gweithiol y dyffryn, Cymry Cymraeg gweriniaethol, dim rhyw ffwcin plant crachach S4C.
Daeth y diwadd mewn ffordd yn ystod steddfod Aber 92, cont tew o Gaerdydd, fasa methu hyd yn oed ffeindio'r dyffryn ar fap, yn dawnsio fatha twat yn noson claddu Reu. Bygro Tŷ Gwydr, maen nhw'n rhan o'r stori, ond byth bythoedd amen yn rhan o’r diwylliant. Bryn Fôn wedyn yn canu am wlad y rasds gwyn, ffwcin Bethesda a "tyd a reu i mi" a chachu felna.
Tydi hogia ifanc Pengroes yn dallt dim am "ddiwylliant y reu" bellach, yn rhy brysur yn bod yn wancars bach na dim byd arall.
"O fydded i'r diwylliant barhau"
REU